Yr Arlunydd

Celia Hume

Yn wreiddiol o Swydd Amwythig, mae’r artist batik Celia Hume wedi cael ei hysbrydoli gan liw a’r byd naturiol erioed. Gyda chefndir mewn hanes celf, celfyddyd gain, a dylunio gweledol, treuliodd flynyddoedd yn addysgu ac yn gweithio fel darlunydd cyn darganfod batik yn ystod y cyfnod clo—trobwynt a’i harweiniodd i ddatblygu arddull unigryw, gyfoes yn canolbwyntio ar bortreadau.

Mae gwaith Celia wedi cael ei gydnabod gan sawl sefydliad mawr, gan gynnwys Cymdeithas Frenhinol yr Aristiaid Portreadau, Cymdeithas yr Artistiaid Benywaidd, Academi Frenhinol Cambrian, ac ING Discerning Eye.

Yn 2021, yn dilyn llawer o ymweliadau ag Ynys Môn, daeth Celia a’i theulu i fyw yma. Mae ei hymrwymiad i ddysgu Cymraeg a chreu grŵp iaith ym Menllech yn adlewyrchu ei hymroddiad i ddod yn rhan o’r gymuned leol. Mae’r cysylltiadau hyn wedi dyfnhau ei gwerthfawrogiad o’r iaith Gymraeg fel edau fyw ym mywyd yr ynys.

O’r ymdrech yma i gymryd rhan yn ein cymdeithas, ganwyd prosiect portreadau Pobl Môn—dathliad o bobl Ynys Môn. Mae pob portread yn cael ei baru â chyfweliad sain a recordiwyd gan ei ffrind a’i chydweithiwr Ieuan Williams, gan gynnig cipolwg ar fywyd a stori’r eisteddwr.

Gan dynnu ar ei gwreiddiau mewn dylunio tecstilau, mae Celia hefyd yn ymgorffori patrymau a delweddau wedi’u hysbrydoli gan dirweddau’r ynys ym mhob gwaith.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys ystod eang o unigolion—o un sydd dros gant oed sydd wedi byw yn yr un bwthyn ar hyd ei hoes i wyddonydd a ymchwiliodd i greigiau’r lleuad. Mae wal awgrymiadau yn gwahodd ymwelwyr i enwebu eisteddwyr yn y dyfodol, gan gadw’r prosiect yn fyw ac yn datblygu.

Gallwch archwilio’r portreadau a gwrando ar y straeon yn yr arddangosfa, a dilyn y daith barhaus yn poblmon.cymru neu ar Instagram @poblmon1.

Scroll to Top