Dyma’r unigolion sy’n ymddangos yn yr arddangosfa a’i cyfweliadau. Gallwch gweld eu portread ar y dudalen portreadau.

Arfon Wyn
Llangwyllog
Canwr a chyfansoddwr yw Arfon. Mae o wedi bod yn aelod o fandiau Cymraeg ers y 70au a wedi ennill Cân i Gymru ddwywaith – efo Cae o Ýd a Harbwr Diogel. Arfon yw arweinydd y Moniars, grwp sy’n gigio yn gyson ers y 90au cynnar.
Bu yn athro a phrifathro ac yn adnabyddus am ei waith efo plant gyda anghenion arbennig. Gwaith mae o dal yn ei wneud. Yn ogystal a hyn mae o’n Gynghorydd Sir ers 2022.

Bob Parry
Bodffordd
Mae Bob yn wyneb gyfarwydd ar yr ynys, wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir o 1981 hyd at 2022. Mi fuodd hefyd yn lywydd Undeb Amaethwyr Cymru am 12 mlynedd. Yn wreiddiol o Lanbabo.

Dwynwen Parry
Moelfre
Mae Dwynwen yn darlithio mewn pynciau adeiladu yn Ngholeg Llandrillo Menai. Aeth Dwynwen yn brentis saer i’w thad ar gadael yr ysgol. Yn hwyrach fe dreiliodd 5 mlynedd yng ngholeg High Wycombe yn gwneud gradd mewn adeiladu dodrefn. Mae Dwynwen wedi crefftio 4 cadair eisteddfod.
Mae Dwynwen yn aelod o griw’r bâd achub ym Moelfre, mi oedd hi’r ferch gyntaf i fod yn aelod o’r criw.

Meinir Gwilym
Llangristiolus
Cantores, cyfansoddwraig a cyflwynydd rhaglenni garddio yw Meinir. Yn enedigol o Langristolus.

Elfed Jones
Cemaes
Un o brif gymeriadau Cemaes, mae Elfed yn rhedeg siop fframio lluniau gyda’i ferch Sian.
Mae Elfed wedi cael nifer o wahanol yrfaoedd ar hyd ei fywyd, o fod yn drydanwr, milwr, barbwr, rheolwr grwp pop yr Anglesey Strangers, perchennog busnes celf a chrefft. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llanbadrig.

Sali Thomas
Llanfechell
Mae Sally yn gweithio’n galed yn ei chymuned drwy redeg grwp crefftio. Arweiniodd Sally y prosiect pabi yn yr Eglwys a mae hi’n aelod brwdfydig iawn o wirfoddolwyr Caffi Siop Mechell.

Diane Jones
Biwmares
Enwebwyd Diane gan ei bod yn wyneb sydd yn adnabyddus i bawb sy’n galw heibio’r stondin datws rhwng Pentraeth a Llanbedrgoch.
Nid oes cyfweliad Cymraeg. Grwandewch ar y dudalen Saesneg.

Gladys Pritchard
Caergybi
Bu Gladys yn gweithio ar yr ochr weinyddol mewn nifer o ysgolion Gaergybi. Mae hi wedi bod yn aelod o Lys Eisteddfod Môn am flynyddoedd.

Gwynfor Griffiths
Rhosgoch / Rhosybol
Cyn heddwas yw Gwynfor. Mae wedi mwynhau darlunio ers yn blentyn ifanc. Mae o’n darlunio yn gyson ac yn dangos eu luniau yn rheolaidd ar facebook. Mae o wedi dangos rhai o’i luniau yn yr Oriel hefyd.

Holly Cowling
Benllech / Moelfre
Yn wreiddiol o Fenllech, mae Holly yn byw yn Moelfre erbyn hyn. Mae hi’n gymhorthydd yn yr ysgol leol.

Jade Smith
Llanallgo
Mae Jade wedi’i geni a’i magu ar yr ynys. Mae hi wedi graddio mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol ac yn ymddiddori mewn marchogaeth a cheffylau.
Nid oes cyfweliad Cymraeg. Grwandewch ar y dudalen Saesneg.

Josie Rhisiart
Llangefni
Mae Josie wedi priodi i mewn i’r ynys. Ers Covid mae hi wedi cychwyn y grwp rhedeg Môn Milers. Mae hi hefyd yn hoff o nofio gwyllt yn Nhraeth Bychan.
Nid oes cyfweliad Cymraeg. Grwandewch ar y dudalen Saesneg.

Julian Lewis Jones
Rhosfawr (Brynteg)
Un o hogia’r Rhos ydi Julian. Wedi iddo orffen ei brentisiaeth yn Rio Tinto, Gaergybi, mi benderfynodd arall gyfeirio i’r byd actio. Mae o wedi ymddangos mewn llawer o ddramau a ffilmiau. Casualty a’r ffilm Invictus i enwi dau o’i lu o berfformiadau.

Llinos Medi
Llanddona / Llanerchymedd
Merch ffarm o Landdona yw Llinos. Yn dilyn cael ei ethol yn Gynghorydd Sir Plaid Cymru yn 2012, daeth yn Arweinydd y Cyngor yn 2017. Yn 2024 etholwyd Llinos yn Aelod Seneddol dros Fôn.
Mae hi’n fam i Elliw a Twm.

Margaret Wood
Llansadwrn
Er nad yn wreiddiol o Fôn, enwebwyd Margaret am ei gwaith ym myd daeareg ac sefydlu’r ynys fel un o Barciau Daeareg Unesco o dan yr enw GeoMôn. Darganfyddodd Margaret rhai o ffosiliau hynaf y wlad yn Llanbadrig.
Nid oes cyfweliad Cymraeg. Grwandewch ar y dudalen Saesneg.

Netta Hinson
Cemlyn
Mae Netta yn 101. Pan dynnwyd y llun mi oedd newydd gael ei phenblwydd yn 100. Mae hi wedi byw yn yr un bwthyn yn Gemlyn ers ei geni. Mi oedd ei thaid yn gocsyn y bad achub cyntaf ar y sir yn Nghemlyn.
Nid oes cyfweliad Cymraeg. Grwandewch ar y dudalen Saesneg.

Nigel Ault
Borth Amlwch
Mae Nige yn un o hogia Borth ac yn adnabyddus ar draws y sir yn y byd peldroed a pool. Mae o’n chwarae pool i Gymru.
Mae Nige wedi codi miloedd o arian i elusennau drwy gyflawni nifer fawr o sialensau, o gerdded o amgylch yr ynys i gerdded yn ôl i’r ynys o Gaerdydd.
Nid oes cyfweliad Cymraeg. Grwandewch ar y dudalen Saesneg.

Phil Blake
Bryngwran
Un o Fryngwran yw Phil. Fe’i enwebwyd am ei waith ddi-flino yn gwirfoddoli yn Nhafarn Cymunedol y Iorwertyh a’i waith yn trefnu Philfest.

Stan Zalot
Biwmares
Un o Fiwmares yw Stan. Yn dilyn gweithio yn y Wylfa dechreuodd Stan a’i frawd fusnes mynd a ymwelwyr ar dipiau i Ynys Seiriol ac i bysgota ar y Fenai. Yn ogystal a’r busnes cychod mae Stan yn Aelod o Gyngor Tref Biwmares.
Nid oes cyfweliad Cymrag. Gwrandewch ar y dudalen Saesneg.

Fleur de Lys
Band lleol o Fôn
Carwyn – Gitâr Fas

Sion – Drymiau

Sion – Gitâr

Huw – Allweddellau

Rhys – Prif leisydd a gitâr

Gwyn Roberts
Penysarn
Ganed Gwyn yn Nebo, lle bu’n byw ar hyd ei blentyndod. Prentisiodd Gwyn fel saer cyn mynd i’r môr. Yn dilyn dod adref i briodi a magu teulu gweithiodd Gwyn fel saer cyn mynd yn bostman. Bu’n gynghorydd Sir a clerc Cyngor Cymuned Llaneilian. Mae Gwyn yn hoff o farddoni ac arlunio.
Nid yw’r tri unigolyn isod gyda ni mwyach. Diolch i Derec Owen am gael defnyddio’r lluniau.

Kyffin Williams

Charles Williams

